Gwnewch Ramadegau Wici!
Résumé
Yn y bennod hon ceir gwerthusiad o bersbectif prosesu iaith naturiol (NLP) o’r cysyniad o ramadegau wici, (wikigrammars), gan
ddefnyddio gramadeg wici Llydaweg ARBRES fel astudiaeth achos. Mae’n archwilio’r defnydd o lwyfan wedi’i sylfaenu ar wici ar
gyfer dogfennu amrywiaeth gystrawennol iaith Geltaidd prin ei hadnoddau, gyda chydran ryngweithiol wedi’i hanelu at gael y
gymuned i gymryd rhan yn y gwaith. Mae’n cynnwys corpws cynhwysfawr wedi’i anodi sy’n bwydo i ieithyddiaeth theoretig ac i
NLP. Dadleuwn yma dros fabwysiadu llwyfannau o’r fath gan gymunedau sy’n siarad ieithoedd lleiafrifedig, gan ddadlau eu bod
yn darparu corpora gydag amrywiaeth gyfoethog o ran cystrawen, orgraff ac arddull. Gall amrywiaeth gramadegau wici wedi’u
dethol yn artiffisial helpu ychydig gyda phrinder corpora helaeth sydd ar gael yn ddilyffethair mewn cyd-destunau ieithoedd prin
eu hadnoddau.
Fichier principal
Jouitteau & Grobol. 2024. Gwnewch Ramadegau Wici! - with front page.pdf (738.35 Ko)
Télécharger le fichier
Origine | Fichiers éditeurs autorisés sur une archive ouverte |
---|---|
licence |