Gwnewch Ramadegau Wici!
Résumé
Yn y bennod hon ceir gwerthusiad o bersbectif prosesu iaith naturiol (NLP) o’r cysyniad o ramadegau wici, (wikigrammars), ganddefnyddio gramadeg wici Llydaweg ARBRES fel astudiaeth achos. Mae’n archwilio’r defnydd o lwyfan wedi’i sylfaenu ar wici argyfer dogfennu amrywiaeth gystrawennol iaith Geltaidd prin ei hadnoddau, gyda chydran ryngweithiol wedi’i hanelu at gael ygymuned i gymryd rhan yn y gwaith. Mae’n cynnwys corpws cynhwysfawr wedi’i anodi sy’n bwydo i ieithyddiaeth theoretig ac iNLP. Dadleuwn yma dros fabwysiadu llwyfannau o’r fath gan gymunedau sy’n siarad ieithoedd lleiafrifedig, gan ddadlau eu bodyn darparu corpora gydag amrywiaeth gyfoethog o ran cystrawen, orgraff ac arddull. Gall amrywiaeth gramadegau wici wedi’udethol yn artiffisial helpu ychydig gyda phrinder corpora helaeth sydd ar gael yn ddilyffethair mewn cyd-destunau ieithoedd prineu hadnoddau.
| Origine | Fichiers éditeurs autorisés sur une archive ouverte |
|---|---|
| Licence |