Mae deallusrwydd artiffisial ar y ffordd, a rhaid i’n hieithoedd ni fod yn barod - Archive ouverte HAL
Chapitre D'ouvrage Année : 2024

Mae deallusrwydd artiffisial ar y ffordd, a rhaid i’n hieithoedd ni fod yn barod

Résumé

Pwynt syml sydd gen i. Rhaid i’n hieithoedd ni fedru delio gyda deallusrwydd artiffisial os ydyn nhw i oroesi dyfodiad y rhaglenni cyfrifiadurol newydd sy’n seiliedig ar ddata personol. Mae deallusrwydd artiffisial (AI) yn system sy’n cael ei nodweddu gan fodelau a hyfforddwyd ar setiau data helaeth, gan gynnwys data ieithyddol, ac mae wedi dod yn rhan annatod o’n bywydau bob dydd. Gwelir hyn yn amlwg o’r ffordd rydym yn defnyddio technoleg teipio darogan ac adnabod lleferydd ar ein ffonau clyfar. Dim ond dechrau’r daith yw hyn, ac mae yma debygrwydd rhwng y ffordd mae AI yn dod yn rhan integredig o’n cymdeithas â’r hyn ddigwyddodd gyda ffonau symudol. Mewn dadansoddiad manwl yn cynnwys deuddeg pwynt, mi wna i amlinellu’r ffordd y gwnaeth y chwyldro technolegol blaenorol, sef ffonau symudol, ddod yn rhan integredig o’n ffordd o fyw. Fe fyddaf yn tynnu cymariaethau gyda’r chwyldro AI presennol ym mhob un o’r camau hyn. Mae camau presennol datblygiad AI yn gosod y sylfaen ar gyfer gweithredu rhaglenni fydd yn ddibynnol ar ddata personol. Cynigiaf esboniad manwl o pam, o’m safbwynt i, mae rhaglenni AI sy’n defnyddio data personol yn risg sylweddol i amrywiaeth ieithyddol yn y dyfodol agos. Er bod cymhathiad AI yn ein bywydau yn y dyfodol agos i weld bron yn anorfod, mae modd lleihau bygythiad penodol unffurfiaeth ieithyddol. Mae’n bosib lleihau’r bygythiad drwy addasu ein hieithoedd i fod yn gymhathus gyda’r modelau AI. Rwy’n dadlau dros gydymdrechu ar draws y sectorau cyhoeddus, diwydiannol, gwyddonol a chymdeithasol. Mae’r alwad gyffredinol hon i weithredu yn hanfodol i sicrhau bod ieithoedd dynol yn goroesi, yn hytrach na boddi, yn y llanw AI.
Fichier principal
Vignette du fichier
Jouitteau. 2024. Mae deallusrwydd artiffisial ar y ffordd, a rhaid i’n hieithoedd ni fod yn barod - with front page.pdf (672.01 Ko) Télécharger le fichier
Origine Fichiers éditeurs autorisés sur une archive ouverte

Dates et versions

hal-04793307 , version 1 (20-11-2024)

Licence

Identifiants

  • HAL Id : hal-04793307 , version 1

Citer

Mélanie Jouitteau. Mae deallusrwydd artiffisial ar y ffordd, a rhaid i’n hieithoedd ni fod yn barod. Gareth Watkins. Iaith a Thechnoleg yng Nghymru: Cyfrol II, II, 2024, 978-1 84220-208-1. ⟨hal-04793307⟩
0 Consultations
0 Téléchargements

Partager

More