Mae deallusrwydd artiffisial ar y ffordd, a rhaid i’n hieithoedd ni fod yn barod
Résumé
Pwynt syml sydd gen i. Rhaid i’n hieithoedd ni fedru delio gyda deallusrwydd artiffisial os ydyn nhw i oroesi dyfodiad y rhaglenni
cyfrifiadurol newydd sy’n seiliedig ar ddata personol.
Mae deallusrwydd artiffisial (AI) yn system sy’n cael ei nodweddu gan fodelau a hyfforddwyd ar setiau data helaeth, gan gynnwys
data ieithyddol, ac mae wedi dod yn rhan annatod o’n bywydau bob dydd. Gwelir hyn yn amlwg o’r ffordd rydym yn defnyddio
technoleg teipio darogan ac adnabod lleferydd ar ein ffonau clyfar. Dim ond dechrau’r daith yw hyn, ac mae yma debygrwydd
rhwng y ffordd mae AI yn dod yn rhan integredig o’n cymdeithas â’r hyn ddigwyddodd gyda ffonau symudol. Mewn
dadansoddiad manwl yn cynnwys deuddeg pwynt, mi wna i amlinellu’r ffordd y gwnaeth y chwyldro technolegol blaenorol, sef
ffonau symudol, ddod yn rhan integredig o’n ffordd o fyw. Fe fyddaf yn tynnu cymariaethau gyda’r chwyldro AI presennol ym
mhob un o’r camau hyn.
Mae camau presennol datblygiad AI yn gosod y sylfaen ar gyfer gweithredu rhaglenni fydd yn ddibynnol ar ddata personol.
Cynigiaf esboniad manwl o pam, o’m safbwynt i, mae rhaglenni AI sy’n defnyddio data personol yn risg sylweddol i amrywiaeth
ieithyddol yn y dyfodol agos. Er bod cymhathiad AI yn ein bywydau yn y dyfodol agos i weld bron yn anorfod, mae modd
lleihau bygythiad penodol unffurfiaeth ieithyddol. Mae’n bosib lleihau’r bygythiad drwy addasu ein hieithoedd i fod yn
gymhathus gyda’r modelau AI.
Rwy’n dadlau dros gydymdrechu ar draws y sectorau cyhoeddus, diwydiannol, gwyddonol a chymdeithasol. Mae’r alwad
gyffredinol hon i weithredu yn hanfodol i sicrhau bod ieithoedd dynol yn goroesi, yn hytrach na boddi, yn y llanw AI.
Fichier principal
Jouitteau. 2024. Mae deallusrwydd artiffisial ar y ffordd, a rhaid i’n hieithoedd ni fod yn barod - with front page.pdf (672.01 Ko)
Télécharger le fichier
Origine | Fichiers éditeurs autorisés sur une archive ouverte |
---|